Dilynwch ni: RSS

Comisiwn Silk

Croeso i’n Gwefan

Cafodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ei lansio gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ar 11 Hydref 2011. 

Sefydlwyd y Comisiwn annibynnol i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Bydd yn gwneud ei waith mewn dwy ran:

Rhan I: atebolrwydd ariannol

Adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad, sy’n gyson ag amcanion ariannol y Deyrnas Unedig ac yn debygol o dderbyn cefnogaeth eang.

Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl ar ei ddarganfyddiadau yn Rhan I erbyn hydref 2012.  

Cwblheir Rhan I cyn i’r gwaith ar Ran II ddechrau.

Rhan II: pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethau pobl Cymru’n well.

Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl ar ei ddarganfyddiadau yn Rhan II erbyn diwedd 2013.

Cyfarfu’r Comisiwn am y tro cyntaf ar 4 Tachwedd 2011. Gallwch ddilyn ein gwaith yma ac ar twitter.