Dilynwch ni: RSS

Ysgrifennydd Cymru’n caniatáu estyniad amser i Gomisiwn Silk

Cyhoeddwyd 8 Mawrth 2012

Mae Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan heddiw [Dydd Iau 8 Mawrth] wedi cytuno i gais gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru am estyniad byr i gwblhau ei waith.

Bydd y Comisiwn bellach yn adrodd ar Ran 1 ei gylch gorchwyl ddiwedd yr hydref ac yn cwblhau Rhan II erbyn y gwanwyn 2014.

Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd Paul Silk:  “Mae Rhan I ein cylch gorchwyl, sef edrych ar bwerau ariannol Llywodraeth y Cynulliad yn un cymhleth.  Fel Comisiwn rydym yn gytûn yn y dymuniad o gynhyrchu adroddiad cadarn sydd er budd gorau Cymru ac roeddem yn teimlo bod angen ychydig mwy o amser arnom i roi ystyriaeth drylwyr i’r materion.

“Gan y byddwn bellach yn adrodd yn ôl ar Ran 1 ddiwedd yr hydref, nid oeddem eisiau i hyn gael sgil-effaith ar Ran II gan leihau’r cyfnod ar gael i ni edrych ar drefniadau cyfansoddiadol.  Rwy’n hynod falch bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno i roi estyniad byr i ni gwblhau ein gwaith. Dros y misoedd i ddod byddwn yn parhau i wrando ac ymgysylltu er mwyn cynhyrchu pecyn o argymhellion a fydd yn ein barn ni, y rhai gorau i Gymru.”