Dilynwch ni: RSS

Y Comisiwn Silk yn Cadarnhau Digwyddiadau Eraill

Cyhoeddwyd 2 Ebrill 2012

Mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi cadarnhau cyfres o ddigwyddiadau eraill ar gyfer De a Gorllewin Cymru ym mis Ebrill er mwyn clywed barn y cyhoedd ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru gael pwerau i amrywio trethi a benthyg arian.

Bydd y Comisiwn yn cynnal sesiwn galw heibio mewn bore coffi yn y Bont-faen, sesiwn tystiolaeth gyhoeddus ym Mhen-y-bont ar Ogwr a digwyddiad cyhoeddus gyda’r nos yng Nghaerfyrddin ar 17 Ebrill.  Y diwrnod canlynol, bydd y Comisiwn yn cynnal sesiynau galw heibio yn Hwlffordd a Chastell-nedd.  Mae’r manylion llawn ar gael yn http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/digwyddiadau/.

Dywedodd Paul Silk, y Cadeirydd:  “Rydyn ni wedi dechrau mynd o amgylch Cymru i glywed barn y bobl am y materion pwysig ond cymhleth hyn.  Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi’r set nesaf o ddigwyddiadau ar gyfer mis Ebrill, yn Ne a Gorllewin Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod draw i ddarganfod mwy am ein gwaith ac i gael dweud eu dweud.

“Rydyn ni’n cael clywed ystod eang o safbwyntiau yn y digwyddiadau hyn, a bydd hyn yn ein helpu ni pan fyddwn yn darparu adroddiad yn nes ymlaen eleni.  Cyn bo hir, fe fyddwn ni’n cyhoeddi digwyddiadau pellach ar gyfer mis Mai mewn rhannau eraill o Gymru, a byddwn yn annog y cyhoedd i fynegi eu barn i ni am ddyfodol ariannol Cymru.”

Nodiadau

Trefnwyd y digwyddiadau canlynol ar gyfer mis Ebrill:

17 Ebrill    10-11am             Sesiwn galw heibio mewn bore coffi, Neuadd y Dref, y Bont-faen

17 Ebrill       2.30-3.30pm    Sesiwn Tystiolaeth Gyhoeddus, Gwesty Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr

17 Ebrill    6.30-8pm            Digwyddiad Cyhoeddus yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin

18 Ebrill    10-11am             Sesiwn galw heibio, Y Tabernacl, Hwlffordd

18 Ebrill    2-8pm                  Sesiwn galw heibio, Neuadd Gwyn, Castell-nedd