Dilynwch ni: RSS

Aelodau’r Ddraig Ffynci yn cael dweud eu dweud am drethi Cymru

Cyhoeddwyd 11 Ebrill 2012

Heddiw, cafodd aelodau’r Ddraig Ffynci, Cynulliad plant a phobl ifanc, ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru gael pwerau treth a benthyg.

Roedd y Cadeirydd, Paul Silk, a’r Comisiynydd, Sue Essex, yn bresennol yn nigwyddiad deuddydd blynyddol y sefydliad ym Mae Caerdydd, a bu’r ddau yn cymryd rhan mewn trafodaeth panel hawl i holi.  Cafodd aelodau’r Ddraig Ffynci wybod rhagor am waith y Comisiwn, ystyried sut y gallai effeithio arnynt hwy a holi cwestiynau i’r Comisiynwyr yn ystod y drafodaeth panel.

Dywedodd Paul Silk, y Cadeirydd:  “Mae’r sesiwn heddiw gyda’r Ddraig Ffynci wedi bod yn gyfle gwych i ymgysylltu â phobl iau a chlywed eu  barn am ein gwaith.  Mae’n hanfodol bwysig rhoi cyfle i bobl ifanc drafod a mynegi eu barn am rai o’r materion a fydd yn effeithio arnyn nhw yn y dyfodol.

“Gobeithio bod y sesiwn wedi bod yn ddadlennol ac o gymorth i’r aelodau.  Fe fyddwn i’n eu hannog nhw a phobl ifanc o hyd a lled Cymru i fynd ar ein gwefan i ddweud wrthyn ni beth yw eu barn drwy gyfrwng ein fforymau neu holiaduron.  Dyma eu cyfle i gymryd rhan a dweud wrthyn ni beth ydy eich barn.” 

Nodiadau 

Mae fforwm a holiadur y Comisiwn ar gael yn:
http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/cymryd-rhan/