Cynhaliodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ei chweched cyfarfod dydd Iau 12fed a dydd Gwener 13eg Ebrill, yn Llundain.
Derbyniodd aelodau’r comisiwn y newyddion diweddaraf am y gweithgareddau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus difyr a gynhaliwyd yn Abertawe, Gogledd a Chanolbarth Cymru; araith yng nghynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig a thrafodaeth fywiog yng nghynhadledd y Ddraig Ffynci (Cynulliad plant a phobl ifanc Cymru).
Yn ystod cyfarfod estynedig y Comisiwn y mis hwn, bu’r aelodau’n ystyried y digwyddiadau cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Mawrth ac yn edrych ymlaen at y digwyddiadau sydd ar y gweill ym mis Ebrill a mis Mai. Derbyniodd yr aelodau’r newyddion diweddaraf am y prosiect ymchwil a chyfarfod â David Gauke AS, Ysgrifennydd y Trysorlys a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am drethi. Trafododd aelodau’r Comisiwn nifer o bapurau am grantiau bloc a gwahanol drethi.
Cafodd y Comisiwn gyflwyniadau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb dros Gyllidebau, Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn ogystal â chyfarfod â chynrychiolwyr o Drysorlys Ei Mawrhydi a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn yng Nghaerdydd ar 14 Mai.
Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Cytunwyd ar y cyhoeddiad hwn gan holl aelodau’r Comisiwn