Dilynwch ni: RSS

Comisiwn Silk am ymweld â phob Awdurdod Lleol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24 Ebrill 2012

Mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi cyhoeddi ei set olaf o ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gyflawni ei ymrwymiad o ymweld â phob Awdurdod Lleol yng Nghymru i glywed safbwyntiau’r cyhoedd.

Bydd y Comisiwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Ne Ddwyrain a Gogledd Cymru ym mis Mai i glywed barn y cyhoedd ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru gael pwerau i amrywio trethi a benthyg arian.  Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys boreau coffi, sesiynau galw heibio, cyfarfodydd tystiolaeth gyhoeddus a thrafodaethau panel gyda’r nos.  Mae rhagor o fanylion am ddigwyddiadau mis Mai ar gael yn http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/digwyddiadau/.

Wrth gyhoeddi’r set olaf o ddigwyddiadau, dywedodd y Cadeirydd, Paul Silk:  “Rydyn ni wedi bod yn glir o’r cychwyn ein bod ni am roi pob cyfle i bobl ledled Cymru i ymgysylltu â ni.  Erbyn diwedd mis Mai, fe fyddwn ni wedi ymweld â phob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, rhywbeth sydd wedi bod yn bwysig i ni fel Comisiwn.

“Hwn ydy cyfle’r cyhoedd i gymryd rhan a chwarae eu rhan mewn pwnc a fydd yn effeithio ar fywydau pawb mewn cymunedau ledled Cymru.  Pan fyddwn ni’n cyflwyno adroddiad yn nes ymlaen eleni, rydyn ni am fod yn sicr bod cefnogaeth helaeth i’n hargymhellion a’u bod nhw er budd Cymru.  Mae clywed barn y cyhoedd yn rhan allweddol o gyflawni hynny, ac fe fyddwn ni’n annog pawb i ddod draw a chael gwybod mwy am ein gwaith.”

Nodiadau

Mae’r digwyddiadau canlynol wedi’u trefnu ar gyfer mis Mai:

  • 8 Mai     10.30-11.30am      Sesiwn galw heibio mewn bore coffi, Canolfan Gelfyddydau Muni, Heol Gelliwastad, Pontypridd
  • 8 Mai     2.30-3.30pm           Sesiwn galw heibio, Gwesty’r Castell, Merthyr Tudful
  • 8 Mai     6.30-8pm    Digwyddiad Cyhoeddus, Neuadd y Dref, Aberhonddu
  • 9 Mai     10.30-11.30am      Sesiwn galw heibio mewn bore coffi, Canolfan Ddiwylliannol EVI, Institiwt Glynebwy, Glynebwy
  • 9 Mai     3-4pm          Digwyddiad tystiolaeth gyhoeddus, Y Tŷ Weindio, Tredegar Newydd
  • 9 Mai     6.30-8pm    Digwyddiad Cyhoeddus, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
  • 10 Mai     10.30-11.30am    Sesiwn galw heibio mewn bore coffi, Llyfrgell Cwmbrân, Cwmbrân
  • 10 Mai     2.30-3.30pm         Sesiwn tystiolaeth gyhoeddus, Theatr y Dolman, Casnewydd
  • 10 Mai     6.30-8pm  Digwyddiad Cyhoeddus, Canolfan Gymunedol Bridges, Parc Drybridge, Trefynwy
  • 29 Mai     10.30-11.30am    Sesiwn galw heibio mewn bore coffi, Gwesty’r Bull, Llangefni
  • 29 Mai     1.30-2.30pm         Sesiwn galw heibio, Llyfrgell y Fflint, Y Fflint