Heddiw [dydd Mercher 25 Gorffennaf] ymwelodd aelodau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop, Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Cyfarfu’r Cadeirydd Paul Silk a’r Comisiynydd Dyfrig John ag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru i drafod a allai datganoli pwerau trethu a benthyca helpu cymunedau ffermio Cymru. Roedd y cyfarfodydd yn gyfle hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r ddau sefydliad am waith y Comisiwn hyd yma.
Dywedodd Paul Silk ar ôl yr ymweliad: “Roedd yn wych cwrdd ag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru heddiw er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein gwaith ac i drafod a allai pwerau trethu a benthyca helpu cymunedau ffermio Cymru. Roedd cyfarfodydd heddiw yn fuddiol dros ben a bydd y Comisiwn yn ystyried y safbwyntiau hyn wrth i ni ddechrau ystyried ein casgliadau.
“Y Sioe Frenhinol yw uchafbwynt calendr amaethyddol Cymru ac mae’n gyfle unigryw i siarad ag amrywiol bobl o gymunedau ffermio Cymru. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol iawn bod angen sicrhau y bydd ein hargymhellion er budd pob rhan o Gymru gan gynnwys y Gymru wledig. Mae’r sioe yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr economi wledig, nid dim ond i economi Cymru ond i’r DU gyfan, a bob blwyddyn mae’n denu miloedd o ymwelwyr i ddathlu’r gorau o blith amaethyddiaeth a chynnyrch Cymru. A’r tywydd da wedi’n cyrraedd, rwy’n siŵr y bydd y sioe eleni yn llwyddiant arall eto.”
Nodiadau
Mae dros 200,000 o ymwelwyr yn dod i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, bob blwyddyn. Eleni, cynhelir y sioe rhwng 23 a 26 Gorffennaf.
I gael rhagor o wybodaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru: http://www.rwas.co.uk/en/welsh-show/