Cafodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ei lansio gan gyn Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan ar 11 Hydref 2011.
Gwaith y Comisiwn
Sefydlwyd y Comisiwn annibynnol i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Rhannwyd ei gylch gwaith [dolen] yn ddwy ran.
Rhan I: atebolrwydd ariannol
Adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad, sy’n gyson ag amcanion ariannol y Deyrnas Unedig ac sy’n debygol o dderbyn cefnogaeth eang.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad: ‘Grym a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru’ ar 19 Tachwedd 2012.
Rhan II: pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well.
Ni fydd y Comisiwn yn ystyried, yn Rhan II, strwythur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys materion yn ymwneud ag ethol Aelodau’r Cynulliad.
Mae’r Comisiwn wedi galw am dystiolaeth yng nghyswllt Rhan II, gan ofyn am sylwadau erbyn 1 Mawrth 2013.
Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau yn Rhan II erbyn gwanwyn 2014.