Ar hyn o bryd mae Dyfrig John yn Gadeirydd Cymdeithas Adeiladau Principality, yn Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru, yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yn Llywydd Cymdeithas Pensiynwyr HSBC. Cyn hyn, Dyfrig oedd Dirprwy Gadeirydd a Phrif Weithredwr Banc HSBC plc, swydd a ddaliodd o fis Mai 2008, yn ychwanegu at ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Banc HSBC plc. Yn flaenorol, roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr y banc (o fis Mai 2005) ac yn Gyfarwyddwr gweithredol y banc ers mis Ionawr 2003. Cyn hyn, roedd yn Rheolwr Cyffredinol Grŵp HSBC o fis Awst 2000, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr o’r 6 Mawrth 2006.
Yn dilyn nifer o benodiadau rheolwr uwch ym mhrif swyddfa Banc y Midland yn Llundain, daeth Dyfrig yn Gyfarwyddwr Bancio Adwerthu Cymru a De Orllewin Lloegr. Ym mis Ionawr 1993, fe’i penodwyd yn Rheolwr Cyffredinol Cymru. Roedd hefyd yn dal swyddi ar Fwrdd Awdurdod S4C ac ar Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Ym 1996, roedd hefyd yn Gadeirydd Apêl Olympaidd Cymru.
Gadawodd Dyfrig y DU ym mis Mai 1997 i ddod yn Brif Weithredwr Corfforaeth Fancio HongKong a Shanghai yn India, ble roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Sefydlog ar Farchnadoedd Arian yng Nghronfa Banc India. Ym mis Tachwedd 1999, symudodd i Falaysia fel Dirprwy Gadeirydd a Phrif Weithredwr Banc HSBC Malaysia Berhad.
Ganed Dyfrig ar 14 Mai 1950 yng Ngorllewin Cymru, ac fe’i haddysgwyd yn Sir Benfro a Chaerdydd. Mae’n briod a chyda dau o feibion. Mae’n Gymrawd Sloan o Ysgol Fusnes Llundain, yn Gymrawd Sefydliad y Gwasanaethau Cyllid ac, yn 2005, fe enillodd ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Morgannwg. Yn 2007, fe’i hanrhydeddwyd gydag aelodaeth o Orsedd yr Eisteddfod (Gwisg Wen). Mae hefyd wedi ei gydnadbod gyda Chymrodoriaeth gan Goleg y Drindod Caerfyrddin, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth a doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 2010, daeth yn Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE).