Rob Humphreys a enwebwyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Ef yw Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, ar ôl dal swyddi ym Mhrifysgol Abertawe a swydd Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus Oedolion yng Nghymru. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe gweithiodd ar brosiect arloesol a gwobrwyedig Prifysgol Gymunedol y Cymoedd, a dyfarnwyd Gwobr Addysgu Nodedig iddo am ei waith gydag oedolion mewn addysg. Yn 2005 roedd yn aelod sefydlu ac yn gadeirydd cyntaf Gŵyl Ddysgu Abertawe. Fe’i penodwyd gan y Gweinidog Addysg i’r cyntaf a’r ail o ‘Adolygiadau Rees’ ar gyllido addysg uwch, a arweiniodd at newidiadau sylweddol yn y dull o ariannu prifysgolion yng Nghymru. Yn 2008 ac yn 2009, roedd yn Gynghorydd Arbenigol i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn ystod ei Ymchwiliad i Wasanaethau Trawsffiniol. Fe’i penodwyd yn ddiweddarach i’r Adolygiad Annibynnol o Addysg Uwch yng Nghymru, a gyflwynodd ei adroddiad i Lywodraeth Cymru ym Mai 2009. Yn 2008 fe’i penodwyd gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Cymru i Gonfensiwn Cymru Gyfan. Roedd yn gadeirydd yr adolygiad annibynnol o lywodraethu yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru, a gyflwynodd ei adroddiad i’r Gweinidog Addysg yn 2011. Mae’n aelod o Gyngor Cynulleidfa Cymru y BBC, ac o Bwyllgor Profiad Myfyrwyr, Addysgu ac Ansawdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae’n hanu o sir Drefaldwyn ac roedd yn weithiwr di-grefft am saith mlynedd ar ôl gadael yr ysgol. Ar ôl hynny daeth yn fyfyriwr aeddfed ac ennill ysgoloriaeth undeb llafur i astudio yng Ngholeg Ruskin Rhydychen cyn graddio ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1989. Mae’n briod â’r ddarlledwraig a gwneuthurwr ffilmiau Catrin Evans, ac maent yn byw gyda’u merch ddeng mlwydd oed yn Abertawe.