Dilynwch ni: RSS

Sue Essex (Rhan I)

 

Mae Sue yn gyn aelod o Gynulliad Cymru, yn cynrychioli Etholaeth Gogledd Caerdydd.  Roedd yn Weinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth yn nhymor cyntaf y Cynulliad ac yn Weinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr ail dymor.

Mae Sue’n gynlluniwr cymwysedig ac wedi gweithio dros lawer o flynyddoedd yn y llywodraeth leol ac fel darlithydd cynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd.   Mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd lleol yng Nghaerdydd am un mlynedd ar bymtheg a daeth yn wraig gyntaf i ddal swydd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd.   Mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod Gyngor Cefn Gwlad Cymru.   Ers iddi gamu i lawr o’r Cynulliad ym mis Mai 2007 mae wedi arwain adolygiad ar ran Gweinidog y Cynulliad ar Dai Fforddiadwy yng Nghymru a hefyd bu’n cynghori UWIC a Phrifysgol Bangor ar arweinyddiaeth a chydweithio ar ddysgu ôl-radd  

Fe’i gwnaed yn Aelod er Anrhydedd o Sefydliad Siartredig Tai,  o Gymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru, ac yn Gymrawd er Anrhydedd o Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff.