Yr Athro Noel Lloyd CBE oedd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2004 hyd ei ymddeoliad yn 2011, wedi iddo fod cynt yn Gofrestrydd ac Ysgrifennydd, yn Ddirprwy Is-Ganghellor, yn Ddeon y Gwyddorau ac yn Bennaeth yr Adran Fathemateg. Enillodd radd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cwblhaodd gwrs PhD yno ac roedd yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Ioan. Ei ddiddordebau ymchwil yw Dadansoddi Aflinol a Systemau Dynamegol. Mae ar hyn o bryd yn Athro Ymchwil Nodedig mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n un o Gymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru a daeth yn Aelod Anrhydeddus o’r Orsedd yn 2012.
Cafodd yr Athro Lloyd CBE yn y Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd yn 2010 am wasanaethau i Addysg Uwch yng Nghymru. Rhwng 2008 a 2011, yr Athro Lloyd oedd cadeirydd Addysg Uwch Cymru ac Is-lywydd Universities UK. Rhwng 2005 a 2011, roedd yn aelod o fwrdd UCEA, ac yn gadeirydd ei Bwyllgor Iechyd a Diogelwch; roedd hefyd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac yn gadeirydd ei Phwyllgor Rheoleiddio a Thrwyddedu Mynediad. Mae’n gwasanaethu ar hyn o bryd ar y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, mae’n gadeirydd HPC Wales (Cyfrifiadura Perfformiad Uchel i Gymru) a Cymru Masnach Deg, ac mae’n aelod o Fwrdd Cysgodol y Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth). Mae wedi gwasanaethu ar amryw o bwyllgorau’r Cynghorau Ymchwil a nifer o fyrddau golygyddol. Mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Sicrhau Ansawdd CCAUC, ac roedd yn aelod o fwrdd TEC canolbarth Cymru ac wedyn o Bwyllgor Rhanbarthol ELWa ar gyfer canolbarth Cymru.
Mae’n aelod gweithgar o Gapel y Morfa, Aberystwyth, ac wedi bod yn ysgrifennydd yr eglwys rhwng 1989 a 2004. Mae wedi bod yn gadeirydd bwrdd Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r Athro Lloyd yn briod a chanddo ddau o blant yn eu tridegau.