Pryd a pham y sefydlwyd y Comisiwn?
Yn ei rhaglen lywodraethu ymrwymodd Llywodraeth y DU i sefydlu proses debyg i Gomisiwn Calman ar gyfer Cynulliad Cymru. Comisiwn annibynnol a sefydlwyd yn 2007 i adolygu darpariaethau Deddf yr Alban 1998 oedd Comisiwn Calman, a gwnaeth argymhellion i wneud newidiadau yn y trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer yr Alban.
Yn dilyn refferendwm Mawrth 2011 pan bleidleisiwyd o blaid rhoi pwerau deddfu pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar 19 Gorffennaf 2011 cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai gwaith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn cael ei rannu’n ddwy ran. Byddai Rhan I yn ystyried materion datganoli ariannol a byddai Rhan II yn edrych ar yr agweddau eraill ar y setliad datganoli presennol yng Nghymru.
Ar 11 Hydref 2011, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru fanylion llawn aelodaeth a chylch gorchwyl y Comisiwn. Cytunodd y pedair plaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cylch gorchwyl hwn.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad ar Ran I o’i gylch gorchwyl ar 19 Tachwedd 2012. Bydd yn adrodd ar ei ganfyddiadau i Ran II yn gynnar yn 2014.
A yw’r Comisiwn yn annibynnol? At bwy y mae’n adrodd?
Mae’r Comisiwn yn annibynnol ar unrhyw blaid wleidyddol, ac yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Sut benodwyd yr aelodau?
Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodi Paul Silk yn Gadeirydd ar y Comisiwn. Bu’n Glerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2001 to 2007 ac mae hefyd yn gyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ogystal, cafodd dau aelod hefyd eu penodi yn annibynnol ar y pleidiau gwleidyddol, sef Dyfrig John a’r Athro Noel Lloyd.
Fe wnaeth y pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad hefyd enwebu un aelod o’r Comisiwn yr un. Y pedwar aelod oedd yr Athro Nick Bourne, enwebai Ceidwadwyr Cymru; Sue Essex, enwebai Llafur Cymru; Rob Humphreys, enwebai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru; a Dr Eurfyl ap Gwilym, enwebai Plaid Cymru.
Ar ôl cwblhau Rhan I, ymddiswyddodd Dyfrig John a Sue Essex o’r Comisiwn ac yn eu lle daeth Helen Molyneux a Jane Davidson, yn y drefn honno. Ar gyfer Rhan II mae Trevor Glyn Jones hefyd wedi ymuno â’r Comisiwn fel aelod annibynnol ychwanegol.
Sut mae’r Comisiwn yn mynd i’r afael â’i dasg ar gyfer Rhan II?
Mae’r Comisiwn wedi cyflwyno galwad am dystiolaeth a bydd yn derbyn sylwadau gan unrhyw sefydliadau neu unigolion sydd â diddordeb hyd at 1 Mawrth 2013.
Bydd y Comisiwn hefyd yn bwrw ymlaen raglen o gysylltu â rhanddeiliaid i’w helpu i bwyso a mesur sut allai’r setliad datganoli gael ei addasu i wasanaethu pobl Cymru yn well.
Beth yw’r cylch gorchwyl ar gyfer Rhan II?
Cylch gorchwyl y Comisiwn ar gyfer Rhan II yw:
Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell addasiadau yn y trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well.
Wrth gyflawni Rhan II, mae gofyn i’r Comisiwn:
Gofynnwyd i’r Comisiwn beidio ag ystyried strwythur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnwys materion sy’n ymwneud ag ethol Aelodau’r Cynulliad yn ystod Rhan II.
Sut allaf fi gael gwybodaeth am y cynnydd?
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i weithredu mewn modd agored a thryloyw. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gynnydd y Comisiwn gan gynnwys diweddariadau misol am gyda phwy y mae’r Comisiwn wedi cyfarfod a manylion y dystiolaeth a gyflwynir i’r Comisiwn.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar trydar @silkcommission.
Pwy sy’n cefnogi’r Comisiwn?
Cefnogir y Comisiwn gan ysgrifenyddiaeth o bump, sy’n cynnwys swyddogion o Swyddfa Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a Thrysorlys EM.
Sut gaiff y Comisiwn ei ariannu? Faint mae’n ei gostio?
Mae gan y Comisiwn gyllideb o oddeutu £1 filiwn ar gyfer Rhan I a Rhan II o waith y Comisiwn, gyda chyllid gan Swyddfa Cymru.
Penodiadau digyflog sydd gan yr holl Gomisiynwyr ac ariennir yr holl gostau staff ar gyfer yr ysgrifenyddiaeth gan eu rhiant sefydliad.
Beth fydd yn digwydd i argymhellion y Comisiwn?
Mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu sut i ymateb i argymhellion y Comisiwn.
Rhan I
Sut wnaeth y Comisiwn gasglu tystiolaeth i hysbysu ei argymhellion ar gyfer Rhan I?
Cafodd y Comisiwn dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan unigolion, sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol drwy gyfrwng galwad am dystiolaeth Rhan I a chyfarfodydd y Comisiwn. Fe wnaeth gomisiynu arolwg barn ICM, cyflwyno holiadur a chynnal 28 o ddigwyddiadau cysylltu â’r cyhoedd ledled Cymru. Cyfarfu’r Comisiwn hefyd gyda swyddogion a Gweinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, Pwyllgorau’r Senedd a’r Cynulliad, a bu’n briffio ASau, ACau ac Arglwyddi.
Pa dreth y mae’r Comisiwn yn argymell ei datganoli?
O’r pedair treth fwy (y dreth gorfforaethol, Treth Ar Werth, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r dreth incwm), mae’r Comisiwn yn ystyried y byddai’r dreth incwm yn briodol i’w datganoli’n rhannol. Ni ddylai’r dreth ar incwm o gynilion a difidendau gael ei datganoli.
Pa dreth lai y mae’r Comisiwn yn argymell ei datganoli?
Mae’r Comisiwn yn argymell bod Treth Tir y Doll Stamp, treth tirlenwi ac (yn amodol ar y trafodaethau cymorth gwladwriaethol cyfredol) ardoll agregau yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn argymell datganoli cyfraddau teithiau pell y Doll Teithwyr Awyr, fel yng Ngogledd Iwerddon, ac ystyried eu datganoli’n llawn yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn argymell y dylai ardrethi busnes gael eu datganoli’n llwyr i Lywodraeth Cymru fel y maent yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, cyn belled â bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar yr addasiad priodol i gyllideb bloc Cymru.
A yw’r Comisiwn yn argymell cyflwyno treth newydd benodol?
Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai’r Cynulliad gael pŵer i gyflwyno trethi newydd tebyg i Ddeddf yr Alban. Nid yw’r Comisiwn yn gwneud dim argymhellion am drethi newydd penodol.
A yw’r Comisiwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cael pwerau benthyca?
Mae’r Comisiwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cael y capasiti i fenthyca ar gyfer buddsoddi cyfalaf a’r gwariant cyfredol yn unol â chyfyngiadau cyffredinol a blynyddol darbodus y cytunir arnynt gyda Llywodraeth y DU.
Pa argymhellion a wna’r Comisiwn i wella atebolrwydd ariannol Llywodraeth Cymru?
Mae’r Comisiwn yn gwneud nifer o argymhellion am sut ellir gwella atebolrwydd ariannol drwy ffyrdd heblaw am ddatganoli pwerau benthyca a threth. Mae’r rhain yn cynnwys cyhoeddi data ariannol ac economaidd gwell ar gyfer Cymru; rôl ehangach bosib i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar arian cyhoeddus ac economi Cymru; trefniadau gweithio ac ymgynghori mwy cadarn rhwng sefydliadau; a gwelliannau yn y system gwariant cyhoeddus fel mae’n berthnasol i Gymru.
Pryd caiff argymhellion y Comisiwn ar gyfer Rhan I eu cyflwyno?
Byddai gweithredu argymhellion y Comisiwn yn arwain at newidiadau mawr ac felly byddai’n rhaid eu cyflwyno fesul cam. Byddai angen cyflwyno Bil yn y Senedd i fwrw ymlaen yr argymhellion a wnaeth y Comisiwn oherwydd bod gofyn deddfu yn eu cylch. Gallai’r newidiadau nad oes gofyn cael deddfwriaeth ar eu cyfer gael eu cyflwyno mor fuan â phosib.
Mae’r Comisiwn yn credu y dylid cynnal refferendwm ar ddatganoli’r dreth incwm, wedi’i sbarduno gan bleidlais fwyafrifol dwy ran o dair yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a gyda chytundeb Senedd y DU. Dylai’r ddarpariaeth ar gyfer y refferendwm hwn gael ei chynnwys yn y Ddeddf sy’n datganoli’r pwerau benthyca a threthu.