Hoffai’r Comisiwn glywed eich barn chi ynghylch sut y gellid diwygio setliad datganoli Cymru er mwyn galluogi Senedd y DU a’r Cynulliad Cenedlaethol i wasanaethu pobl Cymru yn well.
O’r dudalen hon, gallwch gymryd rhan a dweud wrthym beth yw eich barn. Caiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru i glywed barn y cyhoedd ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae croeso i unrhyw un ddod i’r digwyddiadau ar y diwrnod, ond er mwyn rhoi syniad i ni faint fydd yn bresennol, byddem yn ddiolchgar pe bai pobl yn gallu cadarnhau eu presenoldeb [...] [mwy] »
Sefydlwyd ein Comisiwn annibynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar ail ran ein gwaith, sef ystyried pwerau cyffredinol ehangach Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae eich sylwadau chi yn bwysig i’n helpu ni i argymell sut i wella’r setliad datganoli cyfredol yng Nghymru. Byddem [...] [mwy] »
Mae’r Comisiwn am glywed barn amrywiaeth eang o unigolion, busnesau a sefydliadau o bob rhan o’r wlad ac mae nifer o ffyrdd o ddod yn gysylltiedig.
Dros y misoedd nesaf, fe welwch ar y dudalen hon gyfres o fforymau gyda’r bwriad o ysgogi trafodaeth.
Rydym am annog trafodaeth agored a bywiog, ond bydd postio sylwadau’n dal yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn y Comisiwn. I’n helpu i gyflawni hyn, a fyddech cystal â glynu wrth ein telerau ac amodau er mwyn i’ch sylwadau gael eu cyhoeddi.
Mae eich sylwadau’n bwysig i ni ac fe fyddan nhw’n cyfrannu at ein trafodaethau wrth inni baratoi’r adroddiad yng ngwanwyn 2014.
Os oes gennych chi awgrymiadau am destunau fforymau i’r dyfodol, rhowch wybod inni dros yr e-bost (commissiononwelshdevolution@walesoffice.gsi.gov.uk) a byddwn yn ystyried eich cais.
Ar 29 Tachwedd, cyhoeddodd y Comisiwn ei Alwad am Dystiolaeth ar gyfer Rhan II o’i waith. Hoffem glywed eich barn am y setliad datganoli a sut mae’n gweithio’n ymarferol. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithredu am dros dair blynedd ar ddeg, ac mae’r setliad datganoli wedi newid llawer yn ystod y cyfnod hwnnw. [...]