Commission on Devolution in Wales / The Silk Commission

De Ddwyrain Cymru: Digwyddiadau Cyhoeddus i gael dweud eich dweud ar Ddatganoli yng Nghymru
Yr wythnos hon, bydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled De Ddwyrain Cymru er mwyn clywed barn y cyhoedd ar sut i wella datganoli yng Nghymru.

Dros y tri diwrnod nesaf, bydd y Comisiwn yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertyleri, Trefynwy, Merthyr a Phontypridd.   Mae rhagor o fanylion ar gael yma http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/digwyddiadau/.

Mae’r Comisiwn yn dymuno clywed barn cynifer o bobl â phosib er mwyn bod yn sail i’w waith ac mae’n annog pobl o Dde Ddwyrain Cymru i ddod i’r digwyddiad sydd agosaf atynt er mwyn dweud eu dweud ynghylch sut y gellid gwella setliad datganoli presennol Cymru.

Cynhelir rhagor o ddigwyddiadau yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru ym mis Mehefin.

Wrth siarad cyn y digwyddiadau, dywedodd y Cadeirydd Paul Silk:  “Yr wythnos hon, mae ein rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus yn dechrau, mewn trefi a chymunedau yn Ne Ddwyrain Cymru, er mwyn i ni glywed barn y cyhoedd ynghylch sut i wella datganoli yng Nghymru.  Rydyn ni’n benderfynol o lunio argymhellion a fydd yn golygu cefnogaeth eang, ac a fydd orau er lles Cymru.  Dim ond drwy wrando a dadansoddi’r dystiolaeth a gyflwynir i ni, a drwy glywed barn cynifer o bobl â phosib, y gallwn ni wneud hyn.

“Fel Comisiwn, byddem yn annog pobl ar hyd a lled De Ddwyrain Cymru i ddod i un o’n digwyddiadau cyhoeddus yr wythnos hon, neu os na fyddan nhw’n gallu dod, mae’n bosib iddyn nhw lenwi ein holiadur ar-lein a rhannu eu barn a ni.  Mae ein neges yn un syml, dewch draw a chwarae ein rhan i wneud yn siŵr bod gan Gymru’r pwerau iawn ar gyfer y dyfodol.”

Nodiadau

Mae croeso i unrhyw un ddod i’r digwyddiadau hyn. Gall pobl ddod draw ar y diwrnod, ond er mwyn rhoi syniad i ni faint fydd yn bresennol, byddem yn ddiolchgar pe bai pobl yn gallu cadarnhau eu presenoldeb drwy anfon e-bost atom (commissiononwelshdevolution@walesoffice.gsi.gov.uk).

Cylch gwaith y Comisiwn ar gyfer Rhan II yw:

Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well.

Wrth ymgymryd â Rhan II, rhaid i’r Comisiwn:

archwilio pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn arbennig:

- y ffin rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn sydd heb ei ddatganoli;

- a ddylid gwneud diwygiadau i’r ffin ar hyn o bryd; ac

- unrhyw oblygiadau trawsffiniol cysylltiedig â diwygiadau o’r fath;

ymgynghori’n eang ynghylch unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i’r ffin gyfredol;

gwneud argymhellion ynghylch unrhyw ddiwygiadau i’r setliad sy’n debygol o gael cefnogaeth eang; ac

ystyried a gwneud argymhellion ynghylch sut orau i ddatgan y materion gweithredu cyfreithiol ac ymarferol o’r diwygiadau hyn.

Gofynnwyd i’r Comisiwn beidio ag ystyried strwythur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag ethol Aelodau Cynulliad yn ystod Rhan II.

Bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad ar Ran II yng ngwanwyn 2014.

Deunawfed Hysbysiad Comisiwn Silk
Cynhaliwyd deunawfed cyfarfod y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ddydd Gwener 3 Mai yng Nghaerdydd.

Rhannodd y Cadeirydd y newyddion diweddaraf ers y cyfarfod diwethaf ag aelodau’r Comisiwn, gan gynnwys y sesiynau briffio ag Aelodau Seneddol, Arglwyddi ac Aelodau’r Cynulliad.  Cytunwyd ar gofnodion y sesiwn flaenorol.

Roedd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, yn bresennol ar gyfer rhan o’r cyfarfod, ble roedd yn rhoi tystiolaeth lafar i’r Comisiwn.

Yn y cyfarfod, bu aelodau’r Comisiwn yn trafod y dystiolaeth a dderbyniwyd ynghylch iechyd, gan gynnwys trefniadau trawsffiniol.  Cyflwynodd yr isod dystiolaeth lafar ynghylch y pwnc hwn i’r Comisiwn:

Mr Colin Ferguson, Cyfarwyddwr Materion Proffesiynol yng Nghymru, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Cymru

Dr Richard Lewis, Ysgrifennydd Cymru a Dr Philip Banfield, Cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain, Cymru

Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Cyswllt (Cysylltiadau Cyflogaeth) a Martin Semple, Cyfarwyddwr Cyswllt (Ymarfer Proffesiynol), Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

Hefyd, daeth yr isod i ran o’r cyfarfod i gymryd rhan mewn trafodaeth panel arbenigol:

Alan Trench, Cymrawd Anrhydeddus, Ysgol Astudiaethau Cymdeithasol a Gwleidyddol, Prifysgol Caeredin

Emyr Lewis a Cynog Dafis, prosiect Undeb sy’n Newid y DU

Yr Athro James Foreman-Peck, Ysgol Fusnes Caerdydd

Trafododd yr aelodau’r trefniadau terfynol ar gyfer eu digwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd a fyddai’n dechrau yn Ne Ddwyrain Cymru ar 21 Mai.   Mae rhagor o fanylion am y digwyddiadau ar gael ar wefan y Comisiwn yn http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/digwyddiadau/.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn yng Nghaerdydd ar 24ain Mai.

Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru                                                              Cytunwyd ar yr Hysbysiad hwn gan holl aelodau’r Comisiwn a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Dweud eich dweud mewn digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru gan y Comisiwn Silk
Heddiw [dydd Llun 29 Ebrill], mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru i glywed barn pobl ynghylch sut y gellid gwella setliad datganoli presennol Cymru.

Ar ôl cwblhau rhan gyntaf ei waith ar bwerau ariannol, mae’r Comisiwn nawr yn adolygu pwerau ehangach, mwy cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a hoffai glywed barn y cyhoedd er mwyn ei helpu i fod yn sail i’w waith.

Mae’r Comisiwn yn annog cynifer o bobl â phosibl i ddod draw i’w ddigwyddiadau ym mis Mai a mis Mehefin a mynegi eu barn ar ddatganoli yng Nghymru.  Mae cyfres o sesiynau galw-i-mewn a chyfarfodydd cyhoeddus wedi’u trefnu mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru, mewn 14 tref a dinas o Abertyleri i Wrecsam – mae rhagor o wybodaeth yma:   http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/cymryd-rhan/digwyddiadau/

Dywedodd Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn:  “Rydyn ni am glywed barn cynifer o bobl â phosib ynghylch y setliad datganoli presennol yng Nghymru, sut mae’n gweithio a sut gellid ei wella.    Bydd safbwyntiau pobl ar faterion fel, er enghraifft, a ddylid gwneud newidiadau i bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n gweithio’n dda gyda’i gilydd er lles Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu ni gyda’n trafodaethau.   Bydd angen i ni asesu beth sy’n debygol o ennill llawer iawn o gefnogaeth ac mae clywed barn pobl yn rhan hanfodol o’r broses honno.

“Dros y ddau fis nesaf, byddwn ni’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus mewn cymunedau ledled Cymru, ac rwy’n gwahodd unrhyw un sydd â barn ynghylch y materion pwysig hyn rydyn ni’n eu hystyried i ddod draw a rhannu eu safbwyntiau â ni.  Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i’r cyhoedd i chwarae eu rhan yn ein helpu ni i lunio dyfodol Cymru.

“Wrth gwrs, mae nifer o ffyrdd eraill i ymgysylltu â ni – yn ogystal â dod i gwrdd â ni mewn digwyddiad, gallwch lenwi ein holiadur newydd ar-lein, gallwch ymuno â’n fforwm ar-lein neu gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy ysgrifennu llythyr.  Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosib leisio eu barn a dweud eu dweud, a byddwn i’n annog pawb yng Nghymru i gymryd rhan ac ymuno yn y drafodaeth.”

Nodiadau

Mae’r digwyddiadau canlynol wedi’u trefnu ar gyfer mis Mai a mis Mehefin:

Dydd Mawrth, 21 Mai          3-5pm                     Sesiwn galw-i-mewn

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

Dydd Mawrth, 21 Mai          6.30-8pm               Cyfarfod cyhoeddus

Canolfan Casnewydd

Dydd Mercher, 22 Mai         2-4pm                         Sesiwn galw-i-mewn

Canolfan Ddiwylliannol a Chynadledda’r Metropole, Abertyleri

Dydd Mercher, 22 Mai         6.30-8pm                   Cyfarfod Cyhoeddus

Neuadd y Sir, Trefynwy

Dydd Iau, 23 Mai                  10am-12pm              Sesiwn galw-i-mewn

Theatr Soar, Merthyr

Dydd Iau, 23 Mai                  6.30-8pm                   Cyfarfod cyhoeddus

Campws Cymunedol Gartholwg, Pontypridd

Dydd Mawrth, 4 Mehefin    10am-12pm              Sesiwn galw-i-mewn

Neuadd y Dref Llandudno, Llandudno

Dydd Mawrth, 4 Mehefin    6.30-8pm                   Cyfarfod Cyhoeddus

Canolfan Catrin Finch,  Wrecsam

Dydd Mercher, 5 Mehefin   10am-12pm              Sesiwn galw-i-mewn

Neuadd Penrhyn, Bangor

Dydd Iau, 6 Mehefin                        6-7.30pm                   Cyfarfod cyhoeddus

Pierhead, Bae Caerdydd (noddir gan Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru)

Dydd Mawrth, 25 Mehefin  12.30-2pm                 Sesiwn galw-i-mewn

Coleg Powys, Y Drenewydd

Dydd Mawrth, 25 Mehefin  6.30-8pm                   Cyfarfod cyhoeddus

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dydd Mercher, 26 Mehefin            10.30am-12pm         Sesiwn galw-i-mewn

Theatr y Torch, Aberdaugleddau

Dydd Mercher, 26 Mehefin            6.30-8pm                   Cyfarfod Cyhoeddus

Canolfan Halliwell, Caerfyrddin

Dydd Iau, 27 Mehefin         6.30-8pm                   Cyfarfod cyhoeddus

Theatr y Grand, Abertawe

Mae croeso i unrhyw un ddod i’r digwyddiadau. Gall pobl ddod draw ar y diwrnod, ond er mwyn rhoi syniad i ni faint fydd yn bresennol, byddem yn ddiolchgar pe bai pobl yn cadarnhau eu presenoldeb drwy anfon neges e-bost atom (commissiononwelshdevolution@walesoffice.gsi.gov.uk).

Ail Hysbysiad ar Bymtheg Comisiwn Silk
Cynhaliwyd ail gyfarfod ar bymtheg y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ddydd Gwener 12 Ebrill yng Nghaerdydd.

Cafodd aelodau’r Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am weithgareddau ers y cyfarfod diwethaf a chytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.  Edrychodd yr aelodau yn ôl eu teithiau llwyddiannus i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y cyfarfod, trafododd aelodau’r Comisiwn y dystiolaeth a dderbyniwyd ynghylch y ffordd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n gweithio ac etholiadau yng Nghymru.  Daeth yr unigolion a ganlyn i wahanol rannau’r cyfarfodydd i roi tystiolaeth lafar i’r Comisiwn:

Rosemary Butler, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

Syr Robert Rogers, Clerc Tŷ’r Cyffredin a Paul Evans, Prif Glerc y Swyddfa Gyflwyno;

Yr Athro Laura Mc Allister, Grŵp Astudiaethau Cymru o Grŵp Astudio’r Senedd a Stephen Brooks ac Owain ap Gareth, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru; a

Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa’r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.

Trafododd yr aelodau y digwyddiadau sydd ar y gweill a’r pôl piniwn.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn yng Nghaerdydd ar 3ydd Mai.

Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru                                                              Cytunwyd ar yr Hysbysiad hwn gan holl aelodau’r Comisiwn a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Y Comisiwn yn ymweld â’r Alban i glywed am eu Profiadau Datganoli
Mae aelodau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi cychwyn ar ymweliad dau ddiwrnod â’r Alban er mwyn clywed am ei phrofiadau datganoli.

Mae’r Comisiwn wedi cyfarfod â Dirprwy Lywydd Senedd yr Alban, y Gweinidog dros Fusnes Seneddol, Arweinyddion Plaid Geidwadol ac Unoliaethol yr Alban a Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, aelod o Gabinet yr Wrthblaid y Blaid Lafur, darlledwyr, academyddion a Reform Scotland.

Dywedodd Paul Silk, y Cadeirydd: “Wrth ymweld â’r Alban yn ystod Rhan I o’n gwaith, cawsom gipolwg amhrisiadwy ar ddatganoli ariannol yn y Deyrnas Unedig. Rydym wedi dychwelyd i’r Alban i glywed o lygad y ffynnon sut mae datganoli yn fwy cyffredinol wedi esblygu, a sut mae’n gweithio yn y wlad.

“Wrth i ni adrodd am ddatganoli yng Nghymru, mae angen i ni fod yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yr wythnos nesaf, byddwn yn ymweld â Gogledd Iwerddon ac yn cael cyfle i gwrdd â sefydliadau ac unigolion allweddol sy’n ymwneud â datganoli yn y fan honno. Bydd yr hyn y byddwn yn ei ddysgu yn ystod yr ymweliadau hyn yn bendant yn helpu i ategu a chyfoethogi ein gwaith.”

Y Comisiwn yn cyhoeddi Cyflwyniadau’r Alwad am Dystiolaeth
Mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi cyhoeddi’r ymatebion sydd wedi dod i law hyd yn hyn heddiw [dydd Mercher 13 Mawrth] yn dilyn ei Alwad am Dystiolaeth.

Roedd y Cadeirydd, Paul Silk, yn diolch i’r unigolion a’r sefydliadau o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn y Deyrnas Unedig a oedd wedi rhoi o’u hamser i gyflwyno tystiolaeth i’r Comisiwn.  Mae’r Comisiwn nawr wedi cael dros 100 o gyflwyniadau.

Dywedodd Paul Silk:  “Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i weithredu mewn modd tryloyw, a heddiw rydym wedi cyhoeddi ar ein gwefan yr ymatebion sydd wedi dod i law yn dilyn ein Galwad am Dystiolaeth.  Cyflwynwyd tystiolaeth ddifyr ac sy’n procio’r meddwl a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gymryd rhan a rhannu eu safbwyntiau.

“Byddwn nawr yn astudio’r dystiolaeth yn fanwl er mwyn cyfrannu at ein gwaith dros y misoedd nesaf.  Gobeithio y bydd cyhoeddi’r rhain yn sbarduno rhagor o drafodaeth.

“Er bod ein cyfnod Galwad am Dystiolaeth wedi dod i ben, rydym yn dal i werthfawrogi unrhyw gyfraniadau a gyflwynir i ni.  Yn benodol, efallai fod ar bobl – gan gynnwys y rheini nad ydynt wedi cyflwyno eu safbwyntiau eto – eisiau ymateb i dystiolaeth pobl eraill.  Os ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r dystiolaeth sydd wedi cael ei chyflwyno hyd yn hyn, mae dal arnom eisiau clywed gennych.

“Dros y misoedd nesaf bydd rhagor o ffyrdd o ymgysylltu â ni, gan gynnwys fforymau a holiadur ar ein gwefan, a chyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus a gynhelir ar draws y wlad.  Rydym yn gwahodd pob safbwynt er mwyn ein helpu i lunio argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwasanaethu pobl Cymru yn well.”

Unfed hysbysiad ar Bymtheg Comisiwn Silk
Cynhaliwyd unfed cyfarfod ar bymtheg y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ddydd Gwener 8 Mawrth yng Nghaerdydd.

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Comisiwn am weithgareddau ers y cyfarfod diwethaf a chytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Yn y cyfarfod, cafodd aelodau’r Comisiwn nifer o bapurau ymchwil a thechnegol ac roeddent hefyd wedi trafod y cynlluniau terfynol ar gyfer eu hymweliadau â’r Alban a Gogledd Iwerddon ddiwedd mis Mawrth.  Bydd Comisiynwyr yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol ym mhob gwlad i glywed am eu profiad o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig.

Adolygodd y Comisiwn y dystiolaeth a ddaeth i law ar ôl cau ei gyfnod Galw am Dystiolaeth a mynegodd ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyflwyno eu safbwyntiau.   Cafwyd dros 100 o gyflwyniadau hyd yn hyn a chytunodd aelodau’r Comisiwn i gyhoeddi’r dystiolaeth a ddaeth i law ar ei wefan wythnos nesaf.

Trafododd aelodau’r Comisiwn ragor o gynlluniau ar gyfer ei gam nesaf o ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus a chomisiynu pôl piniwn.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn yng Nghaerdydd ar 12fed Ebrill.

Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Cytunwyd ar yr Hysbysiad hwn gan holl aelodau’r Comisiwn a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Pymthegfed hysbysiad Comisiwn Silk
Cynhaliodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ei bymthegfed cyfarfod ddydd Iau 7 a dydd Gwener 8 Chwefror yng Nghaerdydd.

Cafodd aelodau’r Comisiwn yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am weithgareddau ers y cyfarfod diwethaf a chytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.  Nododd yr aelodau ddadl yr Uwch Bwyllgor Cymreig ar adroddiad cyntaf y Comisiwn ‘Grymuso a Chyfrifoldeb’.

Yn y cyfarfod, cafodd aelodau’r Comisiwn nifer o bapurau ymchwil a chyflwyniadau manwl ar drefniadau cyfansoddiadol mewn mannau eraill yn y DU a thramor ac ar Gomisiynau tebyg yn y gorffennol.

Cynhaliwyd trafodaeth banel gydag academyddion amlwg a chyn weision sifil ar setliadau datganoli gwahanol y DU.  Roedd y panel yn cynnwys Syr Nigel Hamilton, yr Athro Thomas Watkin, Philip Davies a’r Athro Jim Gallagher.

Trafododd Aelodau eu blaenraglen waith hefyd, cynigion ar gyfer cynnal digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru a’u hymweliadau â’r Alban a Gogledd Iwerddon cyn bo hir.  Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiadau cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn yng Nghaerdydd ar 8fed Mawrth.

Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Cytunwyd ar yr Hysbysiad hwn gan holl aelodau’r Comisiwn a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Mis i fynd – mynegwch eich barn ar Ddatganoli yng Nghymru
Gyda mis i fynd nes bydd y cyfnod Galw am Dystiolaeth yn dod i ben, heddiw [dydd Gwener 1 Chwefror], mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn annog unigolion, busnesau a chyrff sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i fynegi eu barn ar ddatganoli yng Nghymru.

Dechreuodd y Comisiwn Alw am Dystiolaeth ar gyfer adolygu pwerau ehangach Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd, yn syth ar ôl cyflwyno ei adroddiad ar bwerau ariannol y Cynulliad.  Mae’n gofyn am safbwyntiau pobl, busnesau a sefydliadau eraill ledled Cymru ynghylch sut mae setliad datganoli presennol Cymru yn gweithio’n ymarferol.

Mae copi o’r Alwad am Dystiolaeth a chrynodeb o’r setliad presennol ar gael ar ei wefan: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/.  Gofynnir i’r rheini sydd â diddordeb gyflwyno tystiolaeth erbyn 1 Mawrth.

Dywedodd Paul Silk, y Cadeirydd:  “Mae hwn yn gyfle i bobl, busnesau a sefydliadau ledled Cymru gymryd rhan, a’n helpu i lunio dyfodol Cymru.  Mae’r Cynulliad wedi bod yn gweithredu ers dros dair blynedd ar ddeg, ac mewn dim o dro bydd yn ddwy flynedd ers i’r refferendwm ar bwerau deddfu gael ei gynnal.  Felly, mae’n amser da i bwyso a mesur ac ystyried sut mae’r setliad wedi bod yn gweithio. Rydym yn gofyn am brofiadau pobl o ddatganoli, ac a yw’r cyfrifoldebau wedi’u rhannu’n briodol rhwng y Cynulliad a Senedd y Deyrnas Unedig.

“Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn hollbwysig i’n helpu i lunio ein hargymhellion yn ystod rhan gyntaf ein gwaith. Ni fydd cam nesaf ein gwaith yn ddim gwahanol.  Dyna pam mae’n bwysig bod pobl yn cyflwyno eu sylwadau i ni drwy ymateb i’n galwad am dystiolaeth.  Mae fforwm tebyg ar ein gwefan sy’n rhoi cyfle i bobl ymuno â’r drafodaeth a rhannu eu safbwyntiau mewn modd llai ffurfiol.  Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf, felly mae digonedd o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y drafodaeth ar ddyfodol Cymru. Rwy’n annog pobl i roi o’u hamser i rannu eu profiadau a’u safbwyntiau â ni ar y mater pwysig hwn.”

Nodiadau

Cylch gwaith y Comisiwn ar gyfer Rhan II yw:

Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well.

Wrth ymgymryd â Rhan II, rhaid i’r Comisiwn:

archwilio pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn arbennig:

- y ffin rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn sydd heb ei ddatganoli;

- a ddylid gwneud diwygiadau i’r ffin ar hyn o bryd; ac

- unrhyw oblygiadau trawsffiniol cysylltiedig â diwygiadau o’r fath;

ymgynghori’n eang ynghylch unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i’r ffin gyfredol;

gwneud argymhellion ynghylch unrhyw ddiwygiadau i’r setliad sy’n debygol o gael cefnogaeth eang; ac

ystyried a gwneud argymhellion ynghylch sut orau i ddatgan y materion gweithredu cyfreithiol ac ymarferol o’r diwygiadau hyn.

Gofynnwyd i’r Comisiwn beidio ag ystyried strwythur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag ethol Aelodau Cynulliad yn ystod Rhan II.

Bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad ar Ran II yng ngwanwyn 2014.

Dweud eich dweud ar Setliad Datganoli Cymru
A hithau’n ddechrau Blwyddyn Newydd a llai na dau fis cyn i’r cais am dystiolaeth ddod i ben, mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn annog pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan a rhannu eu barn am setliad datganoli presennol Cymru a sut y mae’n gweithio yn ymarferol.

Mae’r Comisiwn yn adolygu’r setliad datganoli ar hyn o bryd ac a oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i wasanaethu Cymru’n well.  Mae copi o’r Cais am Dystiolaeth ar gael ar wefan y Comisiwn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/

Gall partïon ac unigolion sydd â diddordeb gyflwyno tystiolaeth erbyn 1 Mawrth.

Dywedodd y Cadeirydd, Paul Silk:  “Mae dechrau Blwyddyn Newydd bob amser wedi bod yn gyfle perffaith i edrych tua’r dyfodol a phwyso a mesur pethau.  Gofynnwyd i’n Comisiwn edrych ar sut mae setliad datganoli presennol Cymru’n gwasanaethu Cymru a’i phobl.  Rydym am glywed barn cynifer o bobl â phosibl o bob cwr o Gymru, ac rwy’n annog pawb i rannu eu barn â ni.

“Yn ystod Rhan I ein gwaith, ar bwerau ariannol, rhoesom bwyslais mawr ar wrando a chasglu tystiolaeth.  Rydym yn benderfynol o adeiladu ar hyn ar gyfer cam nesaf ein gwaith, er mwyn i ni allu llunio pecyn o argymhellion a fydd er lles pennaf Cymru ac a fydd hefyd yn debygol o gael cefnogaeth.  Dyna pam ei bod mor bwysig bod pobl yn cysylltu â ni.  Mae fy neges yn un syml – dechreuwch y Flwyddyn Newydd drwy leisio eich barn ar y mater pwysig hwn.”

Nodiadau

Cylch gwaith y Comisiwn ar gyfer Rhan II yw:

Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well.

Wrth ymgymryd â Rhan II, rhaid i’r Comisiwn:

archwilio pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn arbennig:

- y ffin rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn sydd heb ei ddatganoli;

- a ddylid gwneud diwygiadau i’r ffin ar hyn o bryd; ac

- unrhyw oblygiadau trawsffiniol cysylltiedig â diwygiadau o’r fath;

ymgynghori’n eang ynghylch unrhyw addasiadau arfaethedig i’r ffin gyffredinol;

gwneud argymhellion ynghylch unrhyw ddiwygiadau i’r setliad sy’n debygol o gael cefnogaeth eang; ac

ystyried a gwneud argymhellion ynghylch sut orau i ddatrys y materion gweithredu cyfreithiol ac ymarferol o’r addasiadau hynny.

Gofynnwyd i’r Comisiwn beidio ag ystyried strwythur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag ethol Aelodau Cynulliad yn ystod Rhan II.

Bydd y Comisiwn yn adrodd ar Ran II yn ystod Gwanwyn 2014.